Adnabod Eich Risgiau
Darganfyddwch eich risg o ddatblygu diabetes math 2
Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein cyflym, rhad ac am ddim i ddarganfod eich risg o ddatblygu diabetes math 2. Dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd, a byddwch yn cael eich canlyniadau ar unwaith.
Beth yw Adnabod Eich Risgiau?
Adnabod Eich Risgiau yw ein hofferyn ar-lein dibynadwy a fydd yn eich helpu i ddeall eich risg o ddatblygu diabetes math 2.
Amcangyfrifir bod yna 6.3 miliwn o bobl yn y DU sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu diabetes math 2 yn seiliedig ar lefelau eu siwgr gwaed. Ac rydym yn gwybod, po gyntaf y caiff diabetes math 2 ei ddiagnosio, cyntaf y gellir ei drin a gorau fydd yr effaith ar eich iechyd.
Rydym wedi helpu dros 3 miliwn o bobl i ddeall eu risg – helpwch ni i'ch helpu chi i ddeall eich risg chi a dechrau cymryd camau i'w rheoli.
Sut yr ydw i'n darganfod fy risg?
Mae darganfod eich risg yn syml, ac ni ddylai gymryd mwy na 5 munud.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau syml i chi ac yn defnyddio eich atebion, wedi'u cyfuno â'r hyn y mae ymchwil yn ei ddweud wrthym am ffactorau risg diabetes math 2, i gyfrifo a ydych yn wynebu risg isel, canolig, uchel, neu uchel iawn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dibynnu ar eich canlyniadau, byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth am ddiabetes math 2 i'ch helpu gyda'r hyn a fydd yn digwydd nesaf – p'un a fydd hynny'n golygu rhoi rhagor o wybodaeth i chi neu roi llythyr i chi i'w ddangos i'ch meddyg teulu.
Gallwn hefyd anfon cyfres o negeseuon e-bost personol i'ch helpu i ddeall rhagor am eich lefel risg a'r modd y gellir ei lleihau os oes angen. Yn syml, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y blwch perthnasol ar y diwedd.
Ni waeth beth fydd eich canlyniadau, rydym wrth eich ochr.
Beth y bydd arnaf ei angen?
Cyn i ni ddechrau, sicrhewch fod gennych y canlynol wrth law. Bydd arnoch eu hangen i ateb y cwestiynau i gyd:
- Tâp mesur
- Clorian ystafell ymolchi
Gallai hwn fod y peth pwysicaf y byddwch yn ei wneud heddiw
Mae dros 3 miliwn o bobl wedi darganfod eu risg o ddatblygu diabetes math 2. Ymunwch â nhw a chael cymorth neu gyngor os oes angen.